Bangor BID

Ynglŷn ag AGB Bangor

Sefydlwyd Ardal Gwella Busnes (AGB) Bangor  ar Ebrill 1af 2016 i helpu i sylweddoli’r weledigaeth o Fangor fel lle da i ymweld ag o, i weithio ynddo, i’w fwynhau ac i fyw ynddo yng Ngogledd Cymru.

Cwestiynau Cyffredin

Dyma rai o’r cwestiynau cyffredin a ofynnir am yr Ardaloedd Gwella Busnes yn gyffredinol, ynghyd â rhai o’r cwestiynau a ofynnwyd ynghylch Ardal Gwella Busnes Bangor:

Materion Cyffredinol

Beth yw AGB? Partneriaeth yw Ardal Gwella Busnes (AGB) rhwng y gymuned fusnes leol ac awdurdod lleol, i ddatblygu prosiectau a gwasanaethau a fydd yn gwella’r amgylchedd masnachol o fewn ffiniau ardal fasnachol. Mae Ardaloedd Gwella Busnes yn cael eu hariannu, yn gyfan gwbl neu yn rhannol, drwy ardoll sydd yn ychwanegol at yr ardrethi annomestig. Defnyddir yr arian ychwanegol o fewn yr ardal dan sylw er mwyn gwella mannau cyhoeddus, hyrwyddo busnes a gwneud yr ardal yn fwy proffidiol ar gyfer busnesau.

Sut y mae AGB yn cael ei sefydlu? Er mwyn datblygu AGB, rhaid ymgynghori’n eang â busnesau i ddeall pa welliannau y mae arnynt eu heisiau ac y byddent yn fodlon talu amdanynt. Wedyn paratoir cais AGB a chynhelir pleidlais drwy’r post lle caniateir 28 diwrnod i fusnesau bleidleisio ‘o blaid’ neu ‘yn erbyn’ y rhaglen arfaethedig. Er mwyn i AGB gael ei sefydlu, mae’n rhaid bodloni dau amod, sef yn gyntaf bod mwyafrif y rhai sy’n pleidleisio yn pleidleisio o blaid ac, yn ail, bod y pleidleisiau o blaid yn cyfateb i fwy na 50% o gyfanswm gwerth ardrethol yr holl bleidleisiau a fwriwyd.

Sut y gall AGB fod o fudd i fusnesau? Mae llawer o fusnesau yn ystyried AGB yn ffordd resymol a fforddiadwy o sicrhau cronfa sy’n cael ei neilltuo am hyd at 5 mlynedd ac sy’n cael ei rheoli gan fusnesau er budd busnesau. Bydd AGB yng nghanol tref yn canolbwyntio fel rheol ar gynyddu nifer y bobl a ddaw yno a chynyddu gwariant ymhlith y rhai sy’n siopa. Yn yr hinsawdd economaidd anodd sydd ohoni, mae hyn yn arbennig o bwysig i fusnesau. Ym mhob rhan o’r DU, mae tystiolaeth bendant fod cynlluniau AGB wedi llwyddo i gynyddu nifer y rhai a ddaw i drefi ac wedi sicrhau gwariant uwch a threfi glanach, diogelach a mwy ffyniannus.

A yw’n orfodol talu ardoll AGB? Os bodlonir yr amodau hyn, bydd yn orfodol i bob busnes dalu’r ardoll, waeth sut y gwnaethant bleidleisio.

A gaf i ddewis peidio? Na chewch. Os yw’r bleidlais yn gadarnhaol, bydd pob busnes cymwys sydd dros y trothwy ac o fewn ffiniau’r AGB yn gorfod talu am hyd at 5 mlynedd yn ôl y gyfraith.

A oes raid i ryw ganran benodol bleidleisio? Nac oes.

Pwy sy’n cael pleidleisio i dderbyn neu wrthod cynigion yr AGB ar gyfer yr ardoll? Yr unigolyn neu unigolion, cwmni cofrestredig neu sefydliad sy’n dalwr ardrethi ac yn talu ardrethi annomestig hereditament ardrethu oddi mewn i ardal yr AGB arfaethedig. Un bleidlais yn unig fydd gan bob hereditament ardrethu.

Beth yw swyddogaeth yr awdurdod lleol? Mae gan yr awdurdod lleol gyfrifoldeb statudol i gefnogi datblygu Ardaloedd Gwella Busnes a hwyluso eu sefydlu. Mae hyn yn cynnwys cynnal y bleidlais a chasglu a gorfodi’r ardreth. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gadarnhau hefyd nad yw’r AGB arfaethedig yn gwrthdaro â chynlluniau ar gyfer ardal.

Pwy sy’n gorfod talu ardoll yr AGB? O dan y gyfraith mae ardoll yr AGB i’w thalu gan bob unigolyn a phob cwmni cofrestredig neu elusen/sefydliad nad yw’n gwneud elw, sydd yn feddiannydd/lesddeiliad eiddo y mae angen talu ardrethi annomestig arno o fewn yr AGB, neu os yw’r eiddo’n wag a heb les arno, perchennog yr eiddo.

Sut y mae ardoll yr AGB yn cael ei chyfrifo? Mae’n amrywio yn ôl y cynigion ar gyfer yr AGB ac yn ôl amgylchiadau lleol.

Sut a phryd y mae ardoll yr AGB yn daladwy? Bydd y Cyngor yn anfon bil ardoll AGB atoch i’w dalu, ar ran cwmni’r AGB. Dylid talu ardoll yr AGB yn uniongyrchol i’r Cyngor.

Beth fydd yn digwydd os na thalaf ardoll yr AGB? Bydd y Cyngor yn dilyn yr un broses ag ar gyfer ardrethi busnes nad ydynt yn cael eu talu.

Sut y bydd ardoll yr AGB yn cael ei rheoli? Ardoll yr AGB sy’n talu costau AGB. Mae’r ardoll yn ganran fechan o werth ardrethol gros busnesau. Unwaith y bydd pleidlais yn llwyddiannus, mae’n rhaid i bob busnes cymwys dalu ardoll yr AGB. Cesglir yr ardoll gan y Cyngor mewn cyfrif arbennig (Cyfrif Refeniw Ardoll yr AGB) a throsglwyddir yr arian i Gwmni’r AGB i’w ddefnyddio ar y prosiectau a’r gwasanaethau a nodir yn y cynnig ar gyfer yr AGB.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng ardoll AGB ac ardrethi busnes? Mae ardrethi busnes yn cael eu casglu gan gynghorau lleol a’u trosglwyddo i’r Llywodraeth Ganolog i’w hailddosbarthu’n genedlaethol. Nid yw’r ardoll yr un fath ag ardrethi annomestig – nid yw arian yr AGB yn mynd i’r Llywodraeth Ganolog. Mae’r cyfan yn aros yn yr AGB i’w wario ar bethau y byddwch chi’n penderfynu eu rhoi yng nghynllun busnes yr AGB. Bydd yn cael ei gasglu gan y Cyngor a’i drosglwyddo i gwmni’r AGB i’w wario yn unol â’r cynllun busnes - bydd cytundeb gweithredu ffurfiol yn cael ei lofnodi gan y ddau barti er mwyn dilysu’r trefniant hwn.

Rwyf y tu allan i ardal yr AGB. Rwy’n tybio na fydd o fantais i mi? Dylech elwa drwy yr hyn a elwir yn “effaith yr eurgylch” sef effaith y rhaglen ar fannau cyfagos i’r AGB. Dylid gwneud pob ymdrech i gynnwys eich busnes penodol chi yng ngweithgareddau’r prosiect cyfan.

A fydd meddianwyr anfasnachol yn gorfod talu? Byddant. Bydd sefydliadau fel awdurdodau lleol, prifysgolion ac yn y blaen oddi mewn i ffiniau’r AGB yn gorfod talu’r ardoll fel pawb arall.

Busnes bach sydd gennyf. Fydda i’n cael cymaint o fantais â’r cadwyni mawr? Canran o’r gwerth ardrethol yw’r ardoll ac felly byddwch chi fel rheol yn talu llawer llai na’r siopau cadwyn. Er hynny, cewch eich cyfran deg o’r buddiannau. Er enghraifft, dylai gweithgareddau sy’n marchnata a hyrwyddo’r dref fod o fudd arbennig i’ch busnes chi.

Oni ddylai’r Cyngor dalu am hyn drwy fy ardrethi busnes? Nid yw swm yr ardrethi busnes a gesglir gan y Cyngor yn cyfateb o gwbl i’r swm y mae’r Cyngor yn ei dderbyn yn ôl gan y Llywodraeth Ganolog er mwyn darparu gwasanaethau yn yr ardal. Ond mae 100% o’r refeniw a godir mewn AGB yn cael ei neilltuo ar gyfer yr ardal honno, i’w wario ar brosiectau er budd y busnesau sy’n talu ardoll yr AGB. Bydd pob gwasanaeth a ddarperir gan yr AGB yn ychwanegol at yr hyn y mae’r Cyngor yn ei ddarparu. Mae ychwanegedd yn cael ei sicrhau drwy gyfrwng ‘Cytundebau Sylfaenol’ gyda phob Cyngor lle mae lefel y gwasanaeth safonol a ddarperir eisoes i ardal yr AGB yn cael ei nodi. Mae hyn yn sicrhau bod ardoll yr AGB yn talu am wasanaethau a phrosiectau sydd yn mynd y tu hwnt i’r lefel honno ac ni fydd yn mynd at ddim byd arall.

Beth os ydw i eisoes yn talu ardrethi a thaliadau gwasanaeth fel rhan o’m rhent? Os yw meddianwyr hereditamentau yn talu rhent neu dâl cynhwysol am ddefnyddio adeilad a bod hynny’n cynnwys ardrethi, y perchennog sydd i dalu ardoll yr AGB ac sy’n cael pleidleisio felly pan gynhelir y bleidlais.

Rwy’n ystyried ehangu i safleoedd eraill yn ardal yr AGB. A fydd raid i mi dalu ardoll ar y rhain ar ôl symud i mewn? Businesses which begin to occupy existing hereditaments during the BID period will be liable to pay the levy for their period of occupation, providing the hereditament remains eligible for BID membership. The BID levy will be extended to occupiers of hereditaments built or first occupied in the BID area during the life of the BID, assuming that they are otherwise eligible.

Pwy sy’n talu costau’r bleidlais? Os bydd y bleidlais yn llwyddiannus, y Cyngor fydd yn talu’r costau. Os pleidleisir yn erbyn, gall Cynghorau ddewis trosglwyddo’r costau i sefydliadau’r AGB.

Beth sy’n digwydd ar ôl y bleidlais? Os bydd y bleidlais yn llwyddiannus, bydd AGB yn para am hyd at 5 mlynedd. Bydd y prosiectau a’r rhaglenni a gynhwyswyd yn y cynllun busnes yn cael eu rhoi ar waith.

Sut mae gwybod a yw wedi llwyddo? Mae’n bwysig mesur perfformiad er mwyn gallu dangos yn bendant pa welliannau sydd wedi digwydd mewn ardal, gan ddefnyddio Dangosyddion Perfformiad Allweddol.

Efallai fod fy nhref i yn rhy fach ar gyfer AGB - tybed? Mae’r drefn ar gyfer AGB yn hyblyg. Ym Mhen Gorllewinol Newydd Llundain mae’r incwm blynyddol o’r ardoll yn £2.7 miliwn ond yn New Addington, Croydon, mae mor isel ag £20,000. Rhaid iddo fod yn benderfyniad lleol oherwydd mae’n rhaid i gynnig gwrdd â disgwyliadau lleol.

Llywodraeth Cymru - Cymorth i Ddatblygu Ardaloedd Gwella Busnes yng Nghymru

A oes modd cyflwyno cynnig ar ran sefydliad arall ar wahân i awdurdod lleol? Nac oes. Ar gyfer yr arian Cymorth Datblygu, rydym yn gofyn i’r awdurdodau lleol arwain o safbwynt gweinyddu a derbyn yr arian ar ran partneriaeth ehangach.

A oes modd cyflwyno mwy nag un cais yn ardal pob awdurdod lleol? Gan mai’r swm sydd ar gael yw £200,000 rydym yn cyfyngu’r ceisiadau i un am bob ardal awdurdod lleol ac felly ni fyddwn yn disgwyl dim mwy na 22 o geisiadau. Rydym yn gofyn i’r awdurdodau lleol ddarparu trosolwg strategol wrth ddewis a chefnogi ardal lle mae’r gymuned fusnes leol wedi dod i gonsensws a lle mae pleidlais gadarnhaol yn fwyaf tebygol. Os cyflwynir mwy nag un cais, gall hynny olygu llai o siawns i bob cais o ardal yr awdurdod lleol hwnnw.

A all arian cyfatebol fod yn nwyddau neu a oes raid iddo fod yn arian parod? Bydd arnom angen o leiaf 25% mewn arian cyfatebol; bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi hyd at 75%. Er hynny gallwch gynnwys cyfraniadau mewn nwyddau yn eich cynnig (costau argraffu, marchnata a hyrwyddo, llogi adeiladau ac ati) gan y bydd hyn yn golygu bod cyfanswm costau’r rhaglen yn llai ac y bydd angen llai o arian i wireddu eich cais.

Canol tref neu ddinas yw’r AGB fel rheol. A oes modd i chi ystyried cynigion gwahanol? Mae peirianwaith yr AGB yn hyblyg ac mae’n bosibl ei addasu ar gyfer nifer o leoliadau gwahanol. Hoffem weld cynigion creadigol ac arloesol a byddwn yn dewis yr ardaloedd llwyddiannus gan ddefnyddio’r meini prawf a sefydlwyd ar gyfer asesu ceisiadau.

A yw’n bosibl i chi gefnogi gwaith sydd eisoes wedi’i gwblhau yn fy nhref ar gyfer cael AGB? Ni fyddwn yn darparu unrhyw arian yn ôl-weithredol ond mae’n amlwg y bydd eich cais yn gryfach os oes gwaith wedi’i gwblhau eisoes a all helpu i ddangos y byddai AGB yn ymarferol yn eich ardal.

At ba ddibenion y ceir defnyddio grant Llywodraeth Cymru? Caiff y grant ei gynnig er mwyn comisiynu ymgynghorydd allanol annibynnol i weithio gyda’r awdurdod lleol a’r gymuned fusnes. Mae’r diffyg cyffredinol o ran profiad ac arbenigedd technegol, a’r diffyg adnoddau i wneud y gwaith, yn cael eu hystyried yn rhwystrau sy’n atal Ardaloedd Gwella Busnes (AGB) yng Nghymru rhag bwrw ymlaen â’u gwaith yn llwyddiannus. Dyna pam y mae’r Cymorth Datblygu yn cael ei gynnig.

A gaiff awdurdodau lleol ymgymryd â swyddogaeth ymgynghorydd? Na chânt. Mae’r grant yn cael ei gynnig er mwyn helpu i gomisiynu ymgynghorydd annibynnol allanol i weithio gyda’r awdurdod lleol a’r gymuned fusnes.

A oes yn rhaid i fy ardal gyflwyno cais i Lywodraeth Cymru cyn mynd ati i ddatblygu AGB? Caiff unrhyw ardal ddatblygu AGB (fel yr amlinellir yn y ddeddfwriaeth a’r rheoliadau), gan ddefnyddio’i hadnoddau ei hun. Mae’n bosibl bod hynny’n rhywbeth yr hoffech ei ystyried os ydych yn teimlo bod gennych yr adnoddau a’r arbenigedd yn fewnol, ac os nad oes angen cymorth ariannol arnoch.

Os yw ‘grŵp’ AGB posibl eisoes wedi dod o hyd i ymgynghorydd, a’i benodi, ydy hynny’n dderbyniol? Os daethpwyd o hyd i ymgynghorydd yn ddiweddar, a’i benodi, dylai hynny fod yn iawn cyhyd ag (a) bod yr ymgynghorydd hwnnw wedi’i gaffael yn unol â chanllawiau caffael yr awdurdod lleol a (b) nad yw’r gwaith y gofynnwyd i’r ymgynghorydd ymgymryd ag ef wedi dechrau’n barod. Ni ddylid defnyddio’r grant i helpu gyda gwaith ôl-weithredol ac ni ddylai’r comisiwn ddechrau cyn i lythyr cynnig grant ddod i law oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Social Media